Du er ikke logget ind
Beskrivelse
Mae Rooted yn ffordd o fod, yn ffordd o feddwl am weinidogaeth hirdymor mewn perthynas â phobl ifanc. Mae Rooted yn gweithio mewn unrhyw gyd-destun, ble bynnag y mae'r bobl ifanc ar daith ffydd a beth bynnag yw eu gallu.Mae model Rooted yn rhoi pobl ifanc yn y canol ac yn ceisio rhoi lle iddynt dyfu, ffynnu a chael eu meithrin mewn cymuned Gristnogol ddiogel, ymroddedig a thosturiol. Bwriad y Rooted Journal (sy'n dod mewn pecynnau o 10) yw helpu pobl ifanc i archwilio materion yn ymwneud â hunaniaeth, pwrpas, hunan-werth, lles a dewisiadau iach. Mae'n rhyngweithiol, yn greadigol ac yn fyfyriol. Mae’r Rooted Journal yn gweithio’n dda ochr yn ochr â’r sesiynau a amlinellir yn y Rooted Leader’s Guide ond mae hefyd yn gweithio ar ei ben ei hunan. Gellir ei ddefnyddio gyda grwpiau bach neu unigolion.Mae’r Rooted Journal yn rhoi cyfle i bobl ifanc wneud lle i ystyried y gwahaniaeth y gall Iesu ei wneud i heriau ac anturiaethau bywyd mewn ffyrdd priodol a sensitif.